Amdanom ni
Croeso i dudalen Gymraeg Cerdded heb y Car! Gwefan ar gyfer pobl sydd wrth eu bodd yn cerdded ond sydd eisiau lleihau eu heffaith ar yr amgylchedd yw Cerdded heb y Car. Rydym ni’n cynnig 100oedd o ganllawiau cerdded hawdd eu defnyddio, yn ddi-dâl, sy’n dangos i chi y mannau gorau y gall bysiau a threnau fynd â chi i gerdded yn y Deyrnas Unedig. Cliciwch yma i ychwanegu eich hoff daith gerdded eich hun heb y car, sy’n dechrau ac yn gorffen wrth orsaf reilffordd neu arhosfan fysiau.
Gwaetha’r modd, does gennym ni ddim digon o adnoddau i gyfieithu’r wefan gyfan i’r Gymraeg, ond mae croeso i chi ychwanegu eich hoff deithiau cerdded heb y car yn Gymraeg.
Mae ein llwybrau ni’n wahanol i wefannau eraill – dydyn ni ddim fel arfer yn cynnwys manylder ewch-heibio-i’r-graig-fach-ar-y-chwith. Yn hytrach na dilyn eraill gam wrth gam, rydym ni o’r farn mai’r ffordd orau o archwilio’r byd mawr awyr agored yw â thocyn trên neu fws, map, cwmpawd, a’n llwybr ni i’ch tywys. Mwynhewch!

Cerdded heb y Car - Tim, Patrik, Gary
Mae’r safle hwn yng ngofal grŵp o gerddwyr brwd sy’n pryderu am effeithiau amgylcheddol gyrru ceir er mwyn mynd i gerdded, a’r diffyg gwybodaeth am ddewisiadau heblaw cludiant mewn car.
Os hoffech chi helpu i roi'r gair ar led am deithiau Cerdded heb y Car, gallwch lawrlwytho ac arddangos un o'n posteri - y cyfan mae'n rhaid i chi ei wneud yw clicio ar A4 Landscape neu A4 Portrait.
Mae defnyddio cludiant cyhoeddus yn:
· lleihau allyriadau carbon deuocsid, un o’r prif bethau sy’n cyfrannu at gynhesu byd-eang
· lleihau tagfeydd parcio a difrod i ymyl y ffyrdd lle mae teithiau cerdded poblogaidd yn cychwyn, ac yn atal gorlenwi ar lonydd cul cefn gwlad
· helpu i gynnal y galw am wasanaethau bws lleol a llinellau cangen, sydd yn aml o dan fygythiad oherwydd tanddefnydd, ac yn derbyn cymhorthdal sylweddol
· caniatáu i chi ddechrau cerdded mewn mannau heblaw meysydd parcio poblogaidd, ac yn eich helpu i ddarganfod trywyddau a llwybrau troed llai cyfarwydd
Rydym yn gobeithio y byddwch yn mwynhau’r safle hwn ac yn ei gael yn ddefnyddiol. Mae croeso i chi anfon gair atom ni yn rhoi eich barn ar y wefan, neu ymuno â’n grŵp Facebook braf i gael diweddariad achlysurol ar beth sy’n digwydd. Gallwch hefyd edrych ar ein Polisi Amgylcheddol i weld sut rydym ni’n llwyddo i gysgu’r nos. Ac mae gennym ni hyd yn oed ein blog ein hunain ac oriel ar-lein lle gallwch chi glywed holl hanes rhai o’n penwythnosau cerdded heb y car!
Text translated by www.tidytranslations.co.uk




